Blog
Bydd cerflunwaith newydd yn Nhwyni Crymlyn yn dathlu harddwch a bioamrywiaeth yr ardal
Yr wythnos hon, gosodir cerflunwaith newydd yn Nhwyni Crymlyn i ddathlu bywyd gwyllt ac amrywiaeth y safle arfordirol gwarchodedig a’i bwysigrwydd i’r gymuned leol.
Cynlluniwyd y cerflun gan arlunydd, gofaint o Gymru, i ymgorffori elfennau allweddol y tirlun, wrth adlewyrchu’r ymrwymiad i wella’r cynefin i bobl a bywyd gwyllt, ymhell i’r dyfodol.
Cynhelir seremoni torri’r rhuban ar ddydd Sul 16 Gorffennaf i ymwelwyr â’r Twyni a’r gymuned ehangach. Mynychir y digwyddiad gan westeion proffil-uchel o Brifysgol Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Plantlife a chyrff eraill sy’n bartneriaid, a chynhelir llawer o weithgareddau byd natur i’r teulu er mwy annog ymwelwyr i archwilio’r twyni.
Rhestrir twyni tywod arfordirol fel y math o gynefin sydd fwyaf mewn perygl o golli bioamrywiaeth yn Ewrop [1], ac mae Twyni Crymlyn yn lloches hanfodol mewn ardal o gryn ddatblygiad. Mae’r twyni a’r gors heli yma’n gartref i fywyd gwyllt prin ac arbenigol, yn cynnwys chwilod teigr y twyni, tegeirianau, a’r gardwenynen frown-resog. Mae’r ardal hefyd yn darparu gofod I gysylltu gyda byd natur i fyfyrwyr Campws Prifysgol Bae Abertawe a phreswylwyr lleol.
Mae Prifysgol Abertawe, wrth gydweithio gyda Thwyni ar Symud a Buglife, wedi bod yn rhoi gwaith adfer cynefin ar waith i wella cyflwr Twyni Crymlyn. Un o’r prif fygythiadau i dwyni tywod yw llystyfiant di-reolaeth a thyfiant rhywogaethau ymledol sy’n mygu’r twyni ac yn cael effaith andwyol ar y planhigion a’r infertebratau arbenigol sy’n byw yno, llawer wedi addasu i fyw mewn tywod moel neu symudol. I helpu i adfer y cynefin, cliriwyd y llystyfiant mwyaf trwchus yn fecanyddol gyda gwirfoddolwyr yn helpu i dorri unrhyw ail-dyfiant. Gobeithir y bydd y gwaith yma’n helpu i alluogi’r Twyni i ffynnu eto a sicrhau dyfodol y safle fel man pwysig I bobl a bywyd gwyllt.
Meddai Ben Sampson, Swyddog Cynaladwyedd Prifysgol Abertawe a Warden Twyni Crymlyn:
“Mae Twyni Crymlyn yn un o’r ychydig o gilfachau o ardaloedd gwyllt o amgylch arfordir Bae Abertawe sydd ar ôl. Mae’r twyni a chorsydd yn cynnal ystod rhyfeddol o blanhigion ac anifeiliaid. Mae cael man mor bwysig I fywyd gwyllt mor agos i’r ddinas ac yn rhad ac am ddim i bawb ei grwydro yn sicrhau ei fod yn lle gwych i bobl brofi byd natur ar riniog eu drws, ac yn hynod o arbennig oherwydd hyn.”
Wedi ei greu gan y gofaint Cymreig James Eifion Thomas, cynlluniwyd y cerflunwaith fel mynedfa i bobl sy’n cyrraedd y safle. Bydd ei fwâu addurniadol yn croesawu pobl wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith ac yn darparu cipolwg ar y tirlun i ddod. Ymhen amser, gosodir ail gerflun wrth fynedfa arall y Twyni – wedi eu cynllunio fel pâr, bydd yr ail gerflun hwn yn adlewyrchu rhai o nodweddion mwyaf y tirlun a dylanwadau Twyni Baglan gerllaw.


The sculpture during construction.
Meddai Hannah Lee, Swyddog Ymgysylltu Cymru Twyni ar Symud:
“Bydd y cerflun hwn yn wirioneddol helpu i greu synnwyr o gyrraedd i bobl sy’n ymweld â Chrymlyn. Rydym wedi ei gynllunio i gynnwys elfennau o’r safle y gall preswylwyr lleol gysylltu gyda nhw fwyaf ac fe welwch bod gloÿnnod byw, adar, gweision neidr a mwy wedi eu plethu iddo. Ein dymuniad yw creu’r nawr, yn ogystal â gorffennol a dyfodol y safle.”
Mae preswylwyr lleol, myfyrwyr a’r gymuned leol yn cael eu hannog i fynychu’r digwyddiad dadorchuddio lle bydd lluniaeth am ddim, ynghyd â Bioblitz, teithiau tywys byd natur, a chwilfa carthysyddion.
Gellir mynychu’r digwyddiad yn rhad ac am ddim; mae’n cael ei gyd-gynnal gan Twyni ar Symud mewn partneriaeth â Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Prifysgol Abertawe, Neath Port Talbot Partneriaeth Natur Lleol, Buglife, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Tywod LIFE a Chanolfan Gofnodi Biolegol De Ddwyrain Cymru (SEWBReC). Project yw Twyni ar Symud sy’n gweithio i adfer cynefinoedd twyni tywod arfordirol i bobl, cymunedau a bywyd gwyllt ledled Cymru a Lloegr, gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Rhaglen LIFE yr UE. Partneriaid y project yw Natural England, Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithasau Byd Natur. Plantlife a Chyfoeth Naturiol Cymru sy’n arwain ar y gwaith ymgysylltu sy’n digwydd yng Nghymru. Mae prosiect Twyni Ar Symud, Prifysgol Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Plantlife yn ddiolchgar am y gefnogaeth i’r gwaith hwn gan Tirfeddianwyr Twyni Crymlyn, St Modwen.
Find out more about the unveiling event and how you can join us here.