Crymlyn Burrows Sculpture Launch
16/07/2023
10am - 3:30pm
Free
Ymunwch â phrosiect Twyni Deinamig a Phrifysgol Abertawe i ddathlu lansiad cerflun newydd Porth y Twyni yn Nhwyni Crymlyn.
Bydd cyfle i archwilio gyda Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru (SEWBReC) a Buglife ar 16eg Gorffennaf am ddiwrnod o ddathlu wrth i ni dorri rhuban cerflun newydd yn y twyni. Wedi'i ddylunio gyda mewnbwn lleol, nod y cerflun yw dathlu'r amrywiaeth o blanhigion a bywyd gwyllt y mae posib eu darganfod ar y safle.
Ond nid dyma ddiwedd y dathliadau! Drwy gydol y dydd bydd cyfle i chi ymuno â theithiau cerdded AM DDIM a chymryd rhan mewn bioblitz (Beth yw bioblitz?) o dan arweiniad SEWBReC, rhwng 10 a 15:30, gan chwilio’r safle am gymaint o blanhigion ac anifeiliaid â phosibl. Bydd popeth y byddwn yn dod o hyd iddo’n cael ei gofnodi a'r data’n cael eu cyflwyno i'r ganolfan gofnodion leol gan gyfrannu at ddata pwysig am fywyd y twyni.
Amserlen y digwyddiad (archebwch le ar gyfer y daith pryfed peillio ar Eventbrite, ar gyfer yr holl weithgareddau - cyfarfod ym mynedfa Sgwâr Margam Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn. Mae hon wedi'i lleoli ar Ffordd Crymlyn ar Gampws Bae Abertawe):
Drwy'r dydd: O 10:00 tan ddiwedd y digwyddiad ymunwch â ni ar gyfer:
- Mwynhewch luniaeth am ddim
- Cofnodi pa fywyd gwyllt sydd i'w weld ar y twyni drwy gyfrwng bioblitz, does dim angen unrhyw brofiad – bydd yr holl gyfarwyddiadau ar gael ar y safle gan SEWBReC.
- Cymryd rhan yn ein helfa garthwr – tybed allwch chi weld pa fywyd gwyllt amrywiol sydd wedi'i gynnwys yn nyluniad y cerflun ac wedyn ewch allan i'r twyni i ddod o hyd i'r planhigion a'r bywyd gwyllt yma a thynnu llun o'ch darganfyddiadau! Bydd raffl ar gyfer yr holl helfeydd fydd yn cael eu cwblhau.
10:30 – 12:00: Cyfle i ddarganfod y twyni gyda Warden y safle, Ben Sampson, a gwirfoddolwyr lleol. Ymunwch â’r tîm am daith gerdded bywyd gwyllt gyffredinol i ddarganfod SoDdGA Twyni Crymlyn – cyfle i ddysgu sut mae twyni tywod yn ffurfio, pa blanhigion a bywyd gwyllt sy’n eu galw’n gartref a pha waith sy’n cael ei wneud i warchod y twyni tywod.
12:00 – 13:00: Rydyn ni wedi gadael rhywfaint o amser i chi fwyta eich cinio, ymlacio yn yr haul neu wneud mwy o gofnodion bywyd gwyllt. Er bod siopau ar y safle, mae'r ddarpariaeth yn gyfyngedig yn ystod yr haf, felly dewch â'ch cinio gyda chi.
13:00 – 13:30: Ymunwch â ni i ddathlu wrth i ni dorri'r rhuban ar y cerflun newydd! Rhannwch eich lluniau eich hun gyda'r hashnod #HunlunCerflun a mwynhau lluniaeth am ddim.
13:30 – 15:00: Cyfle i ddarganfod pryfed peillio’r twyni a dysgu mwy am brosiect B-Lines gydag Ai-Lin Kee o Natur ar Garreg Eich Drws. Mae'r sesiwn yma’n cael ei gyflwyno fel rhan o Brosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot Buglife Cymru - prosiect 3 blynedd sy’n gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i adfer a chreu cynefin llawn blodau gwyllt o fewn rhwydwaith B-Lines, gan gefnogi pryfed peillio gan gynnwys rhywogaethau sy’n brin yn genedlaethol fel y Wenynen Hirgorn a’r Gardwenynen Feinlais.
Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn byr. Gwisgwch esgidiau cryf os gwelwch yn dda - gall y twyni fod yn agored iawn ac rydym yn eich cynghori i wisgo haenau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.
Lleoliad:
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Crymlyn, Sgiwen, SA1 8EN www.what3words.com/drooling.blend.binder (Bydd stondinau a mannau cyfarfod ar gyfer y daith gerdded wrth fynedfa Sgwâr Margam i Dwyni Crymlyn. Mae hon wedi’i lleoli ar Ffordd Crymlyn o fewn Campws y Bae Abertawe).
Parcio ar gael ym maes parcio ymwelwyr y brifysgol
_________________________________________________________
Join Dynamic Dunescapes and Swansea University in celebrating the launch of the new Crymlyn Burrows Dune Gateway sculpture.
Explore with Plantlife, Natural Resources Wales, the Southeast Wales Biodiversity Records Centre (SEWBReC) and Buglife on 16th July for a day of celebration as we cut the ribbon on a new sculpture installation at the burrows. Designed with local input the aim of the sculpture is to celebrate the diversity of plants and wildlife that can be discovered on the site.
The celebrations don’t end there though! Throughout the day join FREE guided walks and take part in a bioblitz (What is a bioblitz?) led by SEWBReC, from 10 – 15:30 we will be searching the site for as much plants and animals as possible. Everything we find will be recorded and the data submitted to the local records centre contributing to important data about life on the burrows.
Event schedule (book for the pollinator walk on Eventbrite – LINK COMING SOON, for all activities meet at the Margam Square entrance of Crymlyn Burrows Site of Special Scientific Interest. This is located on Crymlyn Way within the Swansea Bay Campus):
All day: From 10:00 to the end of the event join us by:
- Enjoy free refreshments
- Recording what wildlife can be found on the dunes through a bioblitz, no experience necessary with all instruction available on-site from SEWBReC.
- Taking part in our scavenger hunt – see if you can spot what different wildlife is included in the design of the sculpture and then head out to the dunes to find the plant and wildlife for real and take a picture of your discoveries! There will be a prize draw for all completed scavenger hunts.
10:30 – 12:00: Discover the dunes with site Warden Ben Sampson and local volunteers. Join the team for a general wildlife walk to discover the Crymlyn Burrows SSSI – learn about how sand dunes form, what plants and wildlife call them homes and what work is being done to conserve the burrows.
12:00 – 13:00: We’ve left some time for you to eat lunch, relax in the sun or make some more wildlife recordings. Although there are shops on site the offering is limited in summertime so please bring your lunch with you.
13:00 – 13:30: Join us to celebrate as we cut the ribbon on the new sculpture! Share your own pictures with the hashtag #SculptureSelfie and enjoy free refreshments.
13:30 – 15:00: Discover the pollinators of the dunes and learn more about the B-Lines project with Ai-Lin Kee from Nature on your Doorstep. This session is being delivered as part of Buglife Cymru’s Neath Port Talbot B-Lines Project– a 3-yr project, working with communities and partners to restore and create wildflower-rich habitat within the B-Lines network, supporting pollinators including nationally rare species such as the Long-horned Bee and the Shrill Carder Bee.
All under-18s must be accompanied by an over-18. Well-behaved dogs on a short lead welcome. Please wear sturdy footwear – dunes can be exposed and it is recommended to dress in layers. Should you have any queries regarding the event please contact Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.
Location:
Crymlyn Burrows Site of Special Scientific Interest, Swansea University Bay Campus, Crymlyn Way, Skewen, SA1 8EN www.what3words.com/drooling.blend.binder (Stalls and walk meeting points will be at the Margam Square entrance of Crymlyn Burrows. This is located on Crymlyn Way within the Swansea Bay Campus)
Parking available in the university visitor car park