Rhosneigr Outdoor Yoga – World Sand Dune Day

Event date

24/06/2023

Event time

11am - 12pm

Event cost

Free

This World Sand Dune Day join us and Imogens Yoga Moves on the dunes for an outdoor** yoga session surrounded by the melody of songbirds, the rustle of marram and a rainbow of tiny dune flowers to experience and celebrate these special coastal spaces.

The session will run from 11:00 – 12:00 on 24th June, meeting at 10:50 on the flat grassy area of the dunes** directly behind The Oyster Catcher (Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict)

The session is free of charge and all equipment for the yoga practice will be provided, you are however welcome to bring your own. Please bring your own water and a blanket/jumper for the end of the session cool down. Toilets, snacks, drinks and parking are available at The Oyster Catcher, when the weather is warm parking can be busy so please leave yourself ample arrival time.

All under-18s must be accompanied by an over-18. Unfortunately we cannot accommodate dogs at this event at this time. Should you have any queries regarding the event booking please contact Hannah.Lee@Plantlife.org.uk. Should you have any queries specific to the yoga session format please contact imogensyogamoves@gmail.com

**in the unfortunate event of extremely adverse weather (heavy rain and/or very strong wind) the session will instead run at Llanfaelog community hub, Ty Croes, LL63 5SS. You will be asked for your phone number on booking, please provide this so we can update you should the weather turn.

Location: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict (This event has a second backup venue in the event of bad weather: Llanfaelog community hub, Ty Croes, LL63 5SS. This will be communicated by text 24 hours before)

 

Meet Imogen:

Hello from Imogen,

I have a passion for designing creative yoga flows, helping to build strength and clarity in the mind and body. Where did this passion come from? I adore everything to do with sustainability and nature and how the outdoors can help us and how we can help the outdoors and after spending years in the great outdoors and being constantly inspired by my surroundings and nature I trained as a climbing coach. All these experiences led me to further study as a sports massage therapist and completion of well-being courses.  Finally, this journey led me to completing my 200-hour Yoga teacher with Yogacourse.com followed by my 85- hour Pregnancy Yoga teacher training with Sally Parkes Yoga. A fascination with anatomy and the connection between mind, body and nature has always driven me in every step, from personal life to teaching others.

My aim with teaching is to find a joyful way, of finding a balance between fast and slow, strong and flexible.

__________________________________________________________________________

Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni, ymunwch â ni ac Imogens Yoga Moves ar y twyni am sesiwn ioga awyr agored** ac ymgolli yn alaw hyfryd cân yr adar, siffrwd y moresg ac enfys o flodau twyni bychain i brofi a dathlu’r llecynnau arfordirol arbennig yma.

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 11:00 a 12:00 ar 24ain Mehefin, gan gyfarfod am 10:50 ar yr ardal o laswellt gwastad yn y twyni** yn union y tu ôl i The Oyster Catcher (Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict)

Mae’r sesiwn am ddim a bydd yr holl offer ar gyfer yr ioga’n cael ei ddarparu, ond mae croeso i chi ddod â’ch offer eich hun. Dewch â'ch dŵr eich hun a blanced / siwmper ar gyfer diwedd y sesiwn oeri. Mae toiledau, byrbrydau, diodydd a pharcio ar gael yn The Oyster Catcher, ond pan fydd y tywydd yn gynnes gall y maes parcio fod yn brysur felly rhowch ddigon o amser i gyrraedd y lleoliad.

Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Yn anffodus, ni allwn groesawu cŵn yn y digwyddiad yma ar hyn o bryd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r archeb, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud yn benodol â fformat y sesiwn ioga, cysylltwch ag imogensyomoves@gmail.com

**os byddwn yn ddigon anffodus i gael tywydd garw iawn (glaw trwm a / neu wynt cryf iawn), bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn hwb cymunedol Llanfaelog, Tŷ Croes, LL63 5SS. Gofynnir i chi am eich rhif ffôn wrth archebu, rhowch hwn fel ein bod yn gallu anfon yr wybodaeth ddiweddaraf atoch chi pe bai'r tywydd yn troi.

Lleoliad: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict (Mae gan y digwyddiad yma ail leoliad wrth gefn os bydd yn dywydd garw: hwb cymunedol Llanfaelog, Tŷ Croes, LL63 5SS. Bydd hyn yn cael ei gyfathrebu drwy neges destun 24 awr ymlaen llaw.)

 

Cyfarfod Imogen:

Helo gan Imogen,

Mae gen i angerdd dros ddylunio llifau ioga creadigol, gan helpu i adeiladu cryfder ac eglurder yn y meddwl a'r corff. O ble daeth yr angerdd yma? Rydw i’n caru popeth sy’n ymwneud â chynaliadwyedd a natur a sut gall yr awyr agored ein helpu ni a sut gallwn ni helpu’r awyr agored. Hefyd, ar ôl treulio blynyddoedd yn yr awyr agored a chael fy ysbrydoli’n gyson gan fy amgylchfyd a byd natur, fe hyfforddais i fel hyfforddwr dringo. Fe arweiniodd yr holl brofiadau yma fi at astudio pellach fel therapydd tylino chwaraeon a chwblhau cyrsiau llesiant. Yn olaf, arweiniodd y siwrnai yma fi at gwblhau fy nghwrs athro Ioga 200 awr gyda Yogacourse.com ac wedyn fy hyfforddiant athro Ioga Beichiogrwydd 85 awr gyda Sally Parkes Yoga. Mae diddordeb mawr mewn anatomeg a’r cysylltiad rhwng y meddwl, y corff a byd natur bob amser wedi fy sbarduno i ar bob cam, o fy mywyd personol i addysgu eraill.

Fy nod i gydag addysgu yw dod o hyd i ffordd lawen o ddod o hyd i gydbwysedd rhwng cyflym ac araf, cryf a hyblyg.

Two people walk into the distance leaving footprints in the sand
A group of people hold yoga poses in the dunes
20230314_072609