Rhosneigr Wildlife Walk – World Sand Dune Day
24/06/2023
1pm - 3pm
Free
This World Sand Dune Day discover the dunes with Dynamic Dunescapes People Engagement Officer Dr Hannah Lee. This walk is suitable for all, during the session we will explore the dunes of Tywyn Llyn, from small dune flowers to the buzzing of bees, plants of the shoreline and song of ground-nesting birds. Bring yourself, friends or family to experience and celebrate these special coastal spaces.
The session will run from 13:00 to 15:00 on 24th June, meeting at 12:50 on the flat grassy area of the dunes directly behind The Oyster Catcher (Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict)
The session is free of charge, please bring your own refreshments (drinks and snacks) and dress for the weather. We recommend sturdy shoes. Hand lenses and small wildlife guides will be provided but we encourage you to bring your own or binoculars. Toilets, snacks, drinks and parking are available at The Oyster Catcher, when the weather is warm parking can be busy so please leave yourself ample arrival time.
All under-18s must be accompanied by an over-18. Unfortunately we cannot accommodate dogs at this event at this time. Should you have any queries regarding the event please contact Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.
Location: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict
Meet Hannah:
Hello! I am the people engagement officer for the Dynamic Dunescapes project in Wales and some may have met me or our placement student out on the dunes or at a local event in North Wales over the past year. In 2023 the project is coming to an end and I really hope we can celebrate the amazing sand dune habitats through our World Sand Dune Day activities. I hope to share the mysteries of the dunes and beach with you drawing from my time with the Charity Plantlife as well as my own background in Marine Biology.
__________________________________________________________________________
Ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd eleni mae cyfle i chi ddarganfod y twyni gyda Swyddog Ymgysylltu â Phobl Twyni Deinamig, Dr Hannah Lee. Mae’r daith gerdded yma’n addas i bawb, ac yn ystod y sesiwn byddwn yn archwilio twyni Tywyn Llyn, o flodau bychain y twyni i suo’r gwenyn, planhigion y draethlin a chân yr adar sy’n nythu ar y ddaear. Dewch â chi'ch hun, ffrindiau neu deulu i brofi a dathlu'r llecynnau arfordirol arbennig yma.
Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal rhwng 13:00 a 15:00 ar 24ain Mehefin, gan gyfarfod am 12:50 ar yr ardal o laswellt gwastad yn y twyni yn union y tu ôl i The Oyster Catcher (Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict)
Mae’r sesiwn am ddim, dewch â’ch lluniaeth eich hun (diodydd a byrbrydau) a gwisgwch ar gyfer y tywydd. Rydym yn argymell esgidiau cryf. Bydd lensys llaw a chanllawiau bywyd gwyllt bach yn cael eu darparu ond rydym yn eich annog i ddod â'ch sbienddrych eich hun. Mae toiledau, byrbrydau, diodydd a pharcio ar gael yn The Oyster Catcher, ond pan fydd y tywydd yn gynnes gall y maes parcio fod yn brysur felly rhowch ddigon o amser i gyrraedd.
Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Yn anffodus ni allwn groesawu cŵn i’r digwyddiad yma ar hyn o bryd. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk.
Lleoliad: The Oyster Catcher, Llyn Maelog, Rhosneigr, LL64 5JP what3words.com/emphasis.prepped.afflict
Cyfarfod Hannah:
Helo! Fi yw’r swyddog ymgysylltu â phobl ar gyfer y prosiect Twyni Deinamig yng Nghymru ac efallai bod rhai ohonoch chi wedi fy nghyfarfod i neu ein myfyriwr ar leoliad ni allan ar y twyni neu mewn digwyddiad lleol yng Ngogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn 2023 mae’r prosiect yn dod i ben ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni ddathlu cynefinoedd rhyfeddol y twyni tywod drwy ein gweithgareddau ar Ddiwrnod Twyni Tywod y Byd. Rydw i’n gobeithio rhannu dirgelion y twyni tywod a’r traeth gyda chi ar sail fy mhrofiad i gydag Elusen Plantlife yn ogystal â fy nghefndir fy hun mewn Bioleg Forol.


