[Online] Accessibility to coastal places for people living with Dementia workshop
22/11/2022
2:00pm - 4:30pm
Free
[Ar-lein] Rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth – Gweithdy Hygyrchedd i lefydd arfordirol i bobl sy'n byw gyda Dementia
Yn cael ei gynnal gan dîm Twyni Deinamig Cymru a Chysylltiadau Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr, nod y gweithdy ar-lein hwn yw codi ymwybyddiaeth o hygyrchedd llefydd arfordirol i bobl sy'n byw gyda Dementia. Gan hwyluso cyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio rhwng staff o wahanol sectorau a sefydliadau bydd y gweithdy hwn yn cynnwys cymysgedd o sgyrsiau, sesiynau grŵp ac amser ar gyfer Holi ac Ateb.
Nod y gweithdy hwn yw dechrau codi ymwybyddiaeth a chyfnewid gwybodaeth, felly rydym yn gobeithio y bydd staff o sawl sector yn ymuno â ni a hoffem wahodd pobl i ddod a rhannu eu profiadau a'u syniadau eu hunain yn ystod hanner olaf y sesiwn.
Bydd y sgyrsiau cychwynnol yn canolbwyntio ar themâu gan arbenigwyr mewn gofal, cynhwysiant cymdeithasol a manteision byd natur i iechyd gan gynnwys y canlynol:
- Codi ymwybyddiaeth o Ddementia
- Pam mae mynediad at natur yn bwysig i bobl sy'n byw gyda dementia a sut i hyrwyddo hygyrchedd
Wedyn bydd astudiaethau achos gan staff sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â digwyddiadau arfordirol, rheoli safleoedd a gofal a chefnogaeth:
- Hygyrchedd mewn digwyddiadau – archwiliadau safle a theithiau cerdded cyfeillgar i ddementia ar yr arfordir ac mewn twyni tywod
- Rhwydweithiau ac astudiaethau achos
Mae’r sesiwn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio yn y sector rheoli tir arfordirol, cynllunio digwyddiadau neu’r sector gofal a chymorth. Os ydych chi’n dod o; timau cadwraeth, ceidwaid gwyrdd, eNGO, CIC, sefydliadau’r llywodraeth, ymgynghoriaeth, sefydliad cynghorwyr gofal, sefydliad darparu gofal, rhwydwaith gofalwyr neu rywle arall mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb
I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Hannah (Swyddog Ymgysylltu â Phobl Twyni Deinamig [Cymru]) Hannah.Lee@plantlife.org.uk
[Online] Networking and knowledge exchange – Accessibility to coastal places for people living with Dementia workshop
Hosted by Dynamic Dunescapes Cymru team & Green Links Bridgend this online workshop aims to raise the awareness of accessibility to coastal spaces for people living with Dementia. Facilitating knowledge exchange and networking between staff from different sectors and organisations this workshop will include a mix of talks, breakout sessions and time for Q&A.
The aim of this workshop is to begin to raise awareness and exchange knowledge, as such we would hope staff from many sectors will join us and would like to invite people to bring and share their own experiences and ideas in the latter half of the session.
Initial talks will focus on themes from experts in care, social inclusion and the benefits of nature to heath including:
- Raising awareness of Dementia
- Why access to nature is important for people living with dementia
Followed by case studies from staff working in coastal event engagement, site management and care & support:
- Accessibility in events – site audits & dementia friendly walks at the coast and in sand dunes
- Networks & case studies
The session is open to anyone working in the coastal land management sector, event planning or care & support sector. Whether you are from; conservation teams, greenkeeping, an eNGO, a CIC, government organisations, consultancy, care advisors organisation, care delivery organisation, carers network or elsewhere this event is open to all
To sign up and receive updates for this event please visit Eventbrite:
For more information or any questions please contact Hannah (Dynamic Dunescapes People Engagement Officer [Wales]) Hannah.Lee@plantlife.org.uk
