Morfa Bychan: Discover the nature reserve

Calendar icon

Event date

24/01/2023

Clock icon

Event time

7pm-8:30pm

Piggy bank icon

Event cost

Free

Morfa Bychan: Darganfod y warchodfa natur - noson o sgyrsiau Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Thwyni Deinamig

Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim heb unrhyw ofyniad i gofrestru. Mae lle i tua 75 o bobl yn y lleoliad.

Ymunwch â staff a gwirfoddolwyr o dimau Twyni Deinamig ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ddarganfod mwy am warchodfa Morfa Bychan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sydd yn swatio yn y twyni ym mhen deheuol Traeth Morfa Bychan. Bydd y sgyrsiau’n amrywio o waith adnewyddu parhaus y twyni tywod, gwaith gwirfoddolwyr YNGC yn y warchodfa a sut gallwch chi gymryd rhan os hoffech chi, a rhywfaint o’r bywyd gwyllt y gallwch chi ddod o hyd iddo yn yr ardal leol.

Byddem wrth ein bodd yn clywed ac yn rhannu eich straeon chi am y twyni tywod, felly beth am ddechrau’r noson drwy fachu rhywbeth i’w yfed o far y Clwb (pob math o ddiodydd ar gael) a byddwn yn dechrau gyda sgwrs!

Mae'r clwb golff yn gweini prydau poeth, ond nid yw hyn bob amser yn wir yn ystod cyfnodau tawelach y gaeaf. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael bwyd cyn y digwyddiad, anfonwch e-bost ataf i nodi eich diddordeb, fel ein bod yn gallu rhoi gwybod i'r tîm. Hannah.Lee@plantlife.org.uk

Mae'r digwyddiad yn agored i bawb ac mae croeso i chi rannu'r manylion yma ag eraill. Yn anffodus, ni allwn groesawu cŵn ar hyn o bryd. Rhaid i bawb dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed.

Lleoliad: Clwb Golff Porthmadog, Ffordd Morfa Bychan, Porthmadog LL49 9UU

Morfa Bychan: Discover the nature reserve - North Wales Wildlife Trust & Dynamic Dunescapes evening of talks

This is a free event with no requirement to register. The venue has a capacity of approximately 75 people.

Join staff and volunteers from the Dynamic Dunescapes and North Wales Wildlife Trust teams to find out more about the Morfa Bychan North Wales Wildlife Trust reserve which is nestled in the dunes at southern end of Morfa Bychan Beach. Talks will range from ongoing sand dune rejuvenation works, the work of NWWT volunteers at the reserve and how you can get stuck in if you would like to, and some of the wildlife you can find in the local area.

We’d love to hear and share your sand dune stories, so why not start the evening grabbing something to drink from the Club house bar (all manner of drinks available) and we will start with conversation!

The golf club do serve hot meals, however this is not always the case in quieter, winter periods. If you are interested in having food prior to the event please send me an email to register interest so we can let the team know. Hannah.Lee@plantlife.org.uk

The event is open to all and please feel free to share these details onward. Unfortunately, we cannot accommodate dogs at this time. All under 18s must be accompanied by an over 18.

Location: Porthmadog Golf Club Club House, Ffordd Morfa Bychan, Porthmadog LL49 9UU

Landscape view of the beach meeting the dunes