Defnyddio twyni tywod ar gyfer dysgu

Event date

Various Dates

Event time

Various Times

Event cost

Free

Ydych chi’n dysgu disgyblion yn CA1 – CA4, un ai yn y dosbarth neu yn yr awyr agored?

Os ydych chi’n cynllunio gwers ddaearyddiaeth, hanes neu ecoleg, mae ein hadnoddau addysgu a dysgu rhad ac am ddim ar gael i chi eu lawrlwytho a’u defnyddio, ac mae swyddog ymgysylltu Twyni Deinamig, Hannah Lee, yn cynnal sawl webinair fel cyflwyniad i addysgwyr yng Nghymru.

Ymunwch â Hannah am gyflwyniad i ecoleg a rheolaeth twyni tywod, sut i gael mynediad at ein hadnoddau a’u defnyddio, a chyngor ar gynllunio teithiau a defnyddio twyni tywod ar gyfer dysgu. Rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant – ymunwch â’r webinair i ddysgu mwy ac i gofrestru eich diddordeb mewn hyfforddiant athrawon ehangach.

CA1 & CA2:

Dydd Llun 16eg Mai 2022, 16:00 - 17:00          Cofrestrwch yma

Dydd Mawrth 24ain Mai 2022, 13:30 - 14:30    Cofrestrwch yma

CA3 & CA4:

Dydd Iau 19eg Mai 2022, 16:00 - 17:00             Cofrestrwch yma

Dydd Mawrth 24ain Mai 2022, 16:00 - 17:00     Cofrestrwch yma