B-Lines Bee Walk – Crymlyn Burrows

Calendar icon

Event date

16/07/2023

Clock icon

Event time

1:30pm - 3pm

Piggy bank icon

Event cost

Free

Ymunwch â phrosiect Twyni Deinamig a Phrifysgol Abertawe i ddathlu lansiad cerflun newydd Porth y Twyni yn Nhwyni Crymlyn drwy archwilio'r twyni tywod gydag Ai-Lin Kee.

Cyfle i ddarganfod pryfed peillio’r twyni a dysgu mwy am brosiect B-Lines gydag Ai-Lin Kee o Natur ar Garreg Eich Drws. Mae'r sesiwn yma’n cael ei gyflwyno fel rhan o Brosiect B-Lines Castell-nedd Port Talbot Buglife Cymru - prosiect 3 blynedd sy’n gweithio gyda chymunedau a phartneriaid i adfer a chreu cynefin llawn blodau gwyllt o fewn rhwydwaith B-Lines, gan gefnogi pryfed peillio gan gynnwys rhywogaethau sy’n brin yn genedlaethol fel y Wenynen Hirgorn a’r Gardwenynen Feinlais.

Mae'r daith gerdded hon yn rhan o ddigwyddiad mwy drwy'r dydd rhwng 10:30 a 15:30 https://fb.me/e/31lDYGpoL

Rhaid i bob person dan 18 oed fod yng nghwmni rhywun dros 18 oed. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn byr. Gwisgwch esgidiau cryf os gwelwch yn dda - gall y twyni fod yn agored iawn ac rydym yn eich cynghori i wisgo haenau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â Hannah.Lee@Plantlife.org.uk  neu Emily.shaw@buglife.org.uk

 

Lleoliad:

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Crymlyn, Sgiwen, SA1 8EN www.what3words.com/drooling.blend.binder (Bydd stondinau a mannau cyfarfod ar gyfer y daith gerdded wrth fynedfa Sgwâr Margam i Dwyni Crymlyn. Mae hon wedi’i lleoli ar Ffordd Crymlyn o fewn Campws y Bae Abertawe).

Parcio ar gael ym maes parcio ymwelwyr y brifysgol

_________________________________________________________

Join Dynamic Dunescapes and Swansea University Sustainability team in celebrating the launch of the new Crymlyn Burrows Dune Gateway sculpture by exploring the dunes with Ai-Lin Kee.

Discover the pollinators of the dunes and learn more about the B-Lines project with Ai-Lin Kee from Nature on your Doorstep. This session is being delivered as part of Buglife Cymru’s Neath Port Talbot B-Lines Project– a 3-yr project, working with communities and partners to restore and create wildflower-rich habitat within the B-Lines network, supporting pollinators including nationally rare species such as the Long-horned Bee and the Shrill Carder Bee.

This walk is part of a larger all-day event from 10:30 – 15:30 https://fb.me/e/31lDYGpoL

All under-18s must be accompanied by an over-18. Well-behaved dogs on a short lead welcome. Please wear sturdy footwear – dunes can be exposed and it is recommended to dress in layers. Should you have any queries regarding the event please contact Hannah.Lee@Plantlife.org.uk or Emily.shaw@buglife.org.uk

 

Location:

Crymlyn Burrows Site of Special Scientific Interest, Swansea University Bay Campus, Crymlyn Way, Skewen, SA1 8EN www.what3words.com/drooling.blend.binder  (Stalls and walk meeting points will be at the Margam Square entrance of Crymlyn Burrows. This is located on Crymlyn Way within the Swansea Bay Campus)

Parking available in the university visitor car park