Blog
Effeithiau rhosyn Japan ar lystyfiant a phridd twyni tywod
Myfyrwraig Meistr o Brifysgol Abertawe Dona Paul sy’n rhannu ei phrofiad o wneud gwaith maes ar Dwyni Crymlyn yn ymchwilio i ddylanwad y planhigyn ymledol rhosyn Japan (Rosa rugosa) ar lystyfiant twyni brodorol a'r pridd o'i amgylch
Haia! Dona Paul ydw i. Rydw i'n fyfyrwraig meistr ryngwladol mewn Bioleg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Abertawe. A dweud y gwir, dyma fy ail gwrs meistr i, fy nghwrs cyntaf i oedd biodechnoleg amgylcheddol. Fel rhan o’r cwrs hwnnw, fe ddysgais i sgiliau mewn agweddau labordy ar astudiaethau amgylcheddol, ond roeddwn i’n angerddol am weithio yn y maes a chynnal arolygon. Felly, fe wnes i ddewis y cwrs yma sydd â photensial enfawr i fy helpu i ddatblygu fy sgiliau ymchwil maes. Fe wnes i ddewis bod yn ecolegydd planhigion ac mae’r traethawd hir wnes i ei gwblhau yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â phrosiect Twyni Deinamig wedi chwarae rhan enfawr o ran hybu fy hyder i yn y pwnc.
Roedd fy nhraethawd hir i’n edrych ar yr effeithiau ar fioamrywiaeth cynefinoedd twyni tywod Crymlyn. Mae Twyni Crymlyn yn safle SoDdGA wedi’i ddynodi o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1987. Mae'n cynnwys 244 Ha o dwyni tywod, cors halen a thraeth rhwng afon Nedd a Phrifysgol Abertawe ym Mae Abertawe (Prifysgol Abertawe, 2018). Mae twyni tywod Crymlyn yn gartref i amrywiaeth eang o ffurfiau bywyd sy'n benodol i'r cynefinoedd hyn.
Fe gynhaliwyd fy astudiaeth i yng nghynefinoedd twyni tywod Crymlyn yn ystod haf 2022. Roedd yn brosiect sylfaenol i roi cipolwg ar y newidiadau sy’n cael eu hachosi gan y rhywogaeth o blanhigyn estron ymledol, sef rhosyn Japan (Rosa rugosa) drwy arolwg llystyfiant a phridd. Roedd yr astudiaeth yn cymharu’r gwahaniaethau rhwng cynefin twyni tywod heb ymlediad a heb ei reoli, a'r plot y mae rhosyn Japan wedi ymledu iddo. Mae'r gwahaniaethau mewn rhywogaethau o blanhigion, amrywiaeth y rhywogaethau, eu strategaethau bywyd, a’r nodweddion amgylcheddol yn cael eu monitro. Fe wnaed hyn drwy ddadansoddiad ystadegol sylfaenol a dadansoddiad amlamrywedd.

Mae bioamrywiaeth y plotiau’n dangos gwahaniaeth clir yn nifer y rhywogaethau o blanhigion gan fod llawer o rywogaethau penodol i dwyni tywod yn fwy tueddol o gyrraedd y plot heb ymlediad. Dangosodd hefyd bod holl gwadratau’r plot gydag ymlediad (o ran amrywiaeth rhywogaethau a nodweddion amgylcheddol) yn debyg o ran amrywiaeth gyda llai o amrywiad. Mae hyn yn awgrymu homogeneiddio biotig (Olden et al., 2016) ar y cynefin twyni tywod, proses lle mae’r cynefin yn colli ei elfennau biolegol unigryw oherwydd mwy o debygrwydd rhwng rhywogaethau dros amser a gofod.
Cymharwyd amrywiaeth rhywogaethau a nodweddion pridd y ddau blot hefyd. Mae gwastadrwydd sylweddol uwch yn y plot heb ymlediad o gymharu â'r plot gydag ymlediad, lle mae gwastadrwydd y rhywogaethau (e) yn esbonio sut mae unigolion yn hollti rhwng rhywogaethau (Pielou, 1966). Byddai gwastadrwydd isel yn dynodi goruchafiaeth un rhywogaeth neu ychydig o rywogaethau tra bo gwastadrwydd uchel yn dynodi nifer cymharol gyfartal o unigolion yn perthyn i bob rhywogaeth. Mae’r gwahaniaethau eraill yn cynnwys lleithder uwch, pH uwch, strategwyr mwy cystadleuol, a rhywogaethau sy'n goddef llai o straen yn y plot gydag ymlediad o gymharu â'r plot heb ymlediad. Mae'n bosibl bod modd priodoli gallu’r pridd yn y plot gydag ymlediad i gynnal lleithder i wreiddiau a llwyni llystyfiant rhosyn Japan a'r rhywogaethau eraill o blanhigion sy'n gysylltiedig yn gadarnhaol. Mae hon yn effaith sylweddol gan fod nodweddion cynefinoedd twyni tywod yn cael eu colli oherwydd nid oes gan bridd twyni tywod y gallu i ddal dŵr. Nid yw rhosyn Japan yn rhywogaeth gystadleuol, mae'n hwyluso tyfiant rhywogaethau cystadleuol eraill gan wneud y gymuned gydag ymlediad yn un gystadleuol. Mae hon yn effaith glasurol argyfwng ymledol, proses sy'n magu traed lle mae’r ymledwyr yn hwyluso ymlediad rhywogaethau eraill. Mae colli amrywiaeth y rhywogaethau yn bryder hefyd (Simberloff a Von Holle, 1999). Er nad oes unrhyw rywogaethau'n cael eu disodli yn y plot gydag ymlediad, mae'n profi dadleoli rhywogaethau planhigion penodol i dwyni tywod. Gall newid y cynefin twyni tywod i gymuned o blanhigion sy'n llai goddefgar i straen fod yn anghydnaws ac yn anfanteisiol i lan y môr yng nghyd-destun newid hinsawdd. Mae gan y twyni tywod rôl arwyddocaol i’w chwarae wrth warchod arfordiroedd y moroedd. Dyma oedd prif ganfyddiadau fy astudiaeth i ac rydw i’n obeithiol iawn y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli’r safle cadwraeth yma yn y dyfodol.


Roedd yn brofiad hyfryd a llawn gwybodaeth, gweithio yn nhwyni Crymlyn, gan fod yr astudiaeth annibynnol yma’n rhoi profiad oes i ymgymryd â gwaith maes yn llwyddiannus yn y dyfodol hefyd. Fe wnes i ddysgu sgiliau newydd mewn bioleg cadwraeth a dysgu llawer am y twyni tywod a'u llystyfiant. Gan fy mod i’n treulio bron i 7 awr yno’n ddi-baid am 5 i 6 diwrnod, rydw i’n gwerthfawrogi cynefin unigryw y twyni tywod. Maen nhw mor agos at y môr ac mae gwahanol fathau o fywyd yn byw yn y cynefin yma. Fe wnaeth bwrsari Dunescapes fy helpu i gyda llawer o gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gwaith maes. Fe wnaeth hyn fy helpu i i ganolbwyntio mwy ar yr astudiaeth gan i mi golli llawer o fy amser gwaith rhan amser. Fe lwyddais i i rwydweithio gyda llawer o fiolegwyr cadwraeth eraill drwy'r prosiect. Rydw i’n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwylydd i, Dr. Sophie Hocking, fy athrawon yn y brifysgol, gwirfoddolwyr twyni Crymlyn, ffrindiau, a theulu. Fe fyddaf yn ddiolchgar am byth am y cyfle yma.
References
- Olden, J. D., Comte, L. & Giam, X. (2016) Biotic homogenisation. eLS, 1-8.
- Pielou, E. C. (1966) The measurement of diversity in different types of biological collections. Journal of theoretical biology, 13, 131-144.
- Simberloff, D. & Von Holle, B. (1999) Positive interactions of nonindigenous species: invasional meltdown? Biological invasions, 1, 21-32.
- Swansea University, S. (2018) Crymlyn Burrows SSSI Management Plan 2018-2023. Swansea.
- Tekiela, D. R. & Barney, J. N. (2017) Not all roads lead to Rome: a meta-analysis of invasive plant impact methodology. Invasive Plant Science and Management, 10, 304-312.
- Ulfah, M., Fajri, S., Nasir, M., Hamsah, K. & Purnawan, S. (2019) Diversity, evenness and dominance index reef fish in Krueng Raya Water, Aceh Besar. IOP Conference Series: Earth and Environmental Science, pp. 012074. IOP Publishing.