Blog
Eurwialen gynnar (Solidago gigantea): Ffrind neu Elyn?
Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe sydd ar leoliad blwyddyn mewn diwydiant, Chloe Mills, sy’n rhannu ei phrofiad o wneud gwaith maes i ymchwilio i ddylanwad eurwiail cynnar (Solidago gigantea) heb eu rheoli ar fioamrywiaeth frodorol twyni tywod Crymlyn, De Cymru
Beth yw’r eurwialen gynnar?
Planhigyn tal gyda blodau melyn bychain a dail siâp strap heb flew yw’r eurwialen gynnar, Solidago gigantea. Mae'n atgynhyrchu'n rhywiol ac yn anrhywiol gan ddefnyddio rhisomau. Gall yr eurwialen gynnar fod yn rhywogaeth ymledol broblemus yn Ewrop gan ei bod yn ymledu'n gyflym mewn cynefinoedd gwlyb a sych. Nid yw’r eurwialen gynnar ar Dwyni Crymlyn wedi cael ei rheoli na’i hastudio erioed, felly fe wnes i gynnal yr astudiaeth yma i edrych ar sut mae’n effeithio ar y planhigion a’r infertebrata o’i hamgylch.
Beth oedd fy nghanfyddiadau i?
Yn gyntaf, roedd y rhywogaethau brodorol o blanhigion yn cael eu heffeithio'n negyddol gan bresenoldeb yr eurwialen. Nid oeddem yn gallu nodi'n benodol y sbardunau sy'n achosi hyn, a byddai angen astudiaethau pellach o hyn. Gall hyn fod oherwydd bod yr eurwialen gynnar yn newid y pridd yn gemegol i atal rhywogaethau eraill rhag tyfu. Fodd bynnag, fel welais i fod yr eurwialen yn effeithio'n gadarnhaol ar infertebrata dringo a hedfan. Mae hyn yn debygol oherwydd y blodau melyn deniadol sy'n denu pryfed peillio, felly mae ysglyfaeth ar gael i'r infertebrata dringo sy'n byw yng nghoesau sych yr eurwialen gynnar. Fodd bynnag, o ganlyniad, dros amser, mae’n debygol i mi bod y poblogaethau o blanhigion brodorol yn cael eu heffeithio’n negyddol gan bresenoldeb yr eurwialen gynnar a’u bod yn lleihau wrth i’r eurwialen gynnar ddenu peillwyr oddi wrth blanhigion brodorol, gan atal y planhigion brodorol rhag atgynhyrchu. Yn olaf, ni chafodd yr infertebrata sy'n byw ar y ddaear eu heffeithio gan bresenoldeb yr eurwialen gynnar, fodd bynnag, gall hyn fod yn benodol i safle Twyni Crymlyn gan fod astudiaethau eraill fel arfer yn canfod eu bod yn cael eu heffeithio'n negyddol gan yr eurwialen gynnar.

quadrat2
Beth all hyn ei olygu o ran sut mae’r eurwialen gynnar yn cael ei rheoli ar Dwyni Crymlyn?
Mae’r eurwialen gynnar yn sensitif i lifogydd, ond nid oes posib defnyddio hwn fel dull rheoli yng Nghrymlyn oherwydd lleoliad yr eurwialen. Gan fod yr eurwialen gynnar yn cael effaith gadarnhaol ar rai infertebrata, dylid osgoi dileu'r eurwialen gynnar yn llwyr o Dwyni Crymlyn ar hyn o bryd.
Y neges i fynd adref
Gobeithio y bydd canlyniadau'r astudiaeth hon yn darparu cyngor ar gyfer rheoli'r eurwialen gynnar ar Dwyni Crymlyn yn y dyfodol. Rydw i hefyd yn gobeithio y bydd yn cefnogi rheolwyr safleoedd twyni tywod eraill sydd ag eurwiail cynnar heb eu rheoli ar eu safleoedd.



Am yr awdwr
Chloe Mills
Swansea University
Rydw i’n astudio BSc mewn Bioleg ym Mhrifysgol Abertawe ac, ar hyn o bryd, yn gwneud blwyddyn mewn diwydiant yn Nhwyni Crymlyn. Fe gefais i gyfle gwych i wneud cais am fwrsari gyda Thwyni Deinamig yn Nhwyni Crymlyn ac edrych ar sut mae eurwiail cynnar (Solidago gigantea) heb eu rheoli yn effeithio ar blanhigion ac infertebrata brodorol yn Nhwyni Crymlyn. Mae’r prosiect yma wedi fy helpu i wella fy ngwaith maes a fy sgiliau cyfathrebu gwyddonol ac rydw i wedi dysgu gwybodaeth am blanhigion ymledol.