Blog
Ymchwilio i ddulliau o gael gwared ar Rosyn Japan (Rosa rugosa) o SoDdGA Twyni Crymlyn: cam allweddol mewn adfer arfordirol
Mae Katelin Demery, myfyrwraig MSc mewn Bioleg Amgylcheddol, yn rhannu ei phrofiad yn gwneud gwaith maes ac yn ymchwilio i’r gwahanol ddulliau o dynnu’r planhigyn ymledol anfrodorol Rhosyn Japan (Rosa rugosa) o dwyni tywod yn Ne Cymru.
Felly pam astudio hyn?
Mae rhywogaethau o blanhigion estron ymledol yn bryder sylweddol o ran rheoli cadwraeth, sef yr ail fygythiad mwyaf i fioamrywiaeth fyd-eang ar ôl colli cynefinoedd. Ymhlith y 2000 o rywogaethau estron sydd wedi’u cyflwyno i’r DU, mae Rosa rugosa yn fygythiad i ecosystemau arfordirol gan ei bod yn cysgodi ac yn atal llystyfiant brodorol o werth cadwraeth mawr, gan leihau bioamrywiaeth cynefinoedd.
Beth wnes i ei ddarganfod?
Defnyddiwyd dau brif ddull o drin, un yn gloddio mecanyddol, ac wedyn claddu’r Rosa rugosa yn ddwfn (dros 2m) a'r ail oedd triniaeth gemegol gan ddefnyddio chwynladdwr glyffosad. Y dull cloddio a claddu oedd y mwyaf effeithlon, gan ffafrio adferiad rhywogaethau o blanhigion brodorol ac arbenigol y twyni tywod, gan gynnwys pys-y-ceirw (Lotus corniculatus), briwydd felen (Galium verum), a phlucen felen (Anthyllis vulneraria). Fodd bynnag, er mwyn atal unrhyw ddarnau rhag ailegino, rhaid sefydlu triniaethau dilynol cynhwysfawr fel tynnu â llaw a chwistrellu glyffosad am hyd at o leiaf pum mlynedd ar ôl eu tynnu.

Map o leoliadau trin SoDdGA Twyni Crymlyn
Sut gallwn ni atal ymlediad Rhosyn Japan?
Y cam cyntaf wrth atal ymlediad Rosa rugosa mewn systemau arfordirol yw codi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau y mae'r rhywogaeth yn eu cyflwyno i'r amgylchedd lleol. Mae'r llwyn wedi'i restru dan atodlen 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy'n ei gwneud yn drosedd i blannu neu ganiatáu i'r rhywogaeth hon dyfu yn y gwyllt fel arall. Os nad oes modd rheoli’r ymlediad, mae lliniaru yn ystod camau cynnar y datblygiad yn hanfodol i atal ymlediad cyflym ac i atal y llwyn rhag sefydlu.
Y neges bwysig...
Rydw i’n gobeithio y bydd posib defnyddio canlyniadau’r astudiaeth hon i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r effeithiau y mae rhywogaethau ymledol yn eu cael ar ecosystemau arfordirol a pham fod eu rheoli a chael gwared arnyn nhw’n hanfodol ar gyfer adfer yr arfordir yn y dyfodol.


Beth gefais i o'r profiad?
Ar ôl treulio’r rhan fwyaf o fy haf yn Nhwyni Crymlyn yn gwneud gwaith maes amrywiol ar gyfer fy mhrosiect ymchwil, mae gen i werthfawrogiad a dealltwriaeth lawer dyfnach o gymhlethdod y cynefin yma a’r cymunedau bywyd gwyllt a phlanhigion unigryw sydd wedi addasu i fyw ynddo. Rydw i’n ddiolchgar o fod wedi bod yn rhan o’r dull arloesol newydd yma o reoli twyni tywod ac o fod yn rhan o un o’r astudiaethau cyntaf yn Nhwyni Crymlyn sy’n ymchwilio i ddulliau trin Rosa rugosa yn ddiweddar. Ar y cyfan, mae wedi bod yn bleser dysgu mwy am bwysigrwydd twyni tywod a gobeithio y bydd fy ymchwil yn helpu i ysbrydoli ac addysgu eraill am yr effaith y mae rhywogaethau ymledol yn ei chael ar ein systemau twyni arfordirol a pham mae eu rheoli nid yn unig yn hanfodol ar gyfer cyfoeth o fywyd gwyllt prin ac arbenigol ond hefyd o ran y rhan enfawr maen nhw’n ei chwarae wrth warchod ein traethau, ein harfordiroedd a’n seilwaith.

About the Author
Katelin Demery
MSc Bioleg Amgylcheddol
Helo, Katelin ydw i, rydw i'n astudio MSc Bioleg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Abertawe. Ar gyfer fy mhrosiect ymchwil terfynol, fe gefais i gyfle anhygoel i weithio yn Nhwyni Crymlyn i astudio gwahanol ddulliau o gael gwared ar rywogaeth ymledol Rhosyn Japan (Rosa rugosa). Drwy gydol y prosiect, fe dreuliais i lawer o amser yn gwneud gwaith maes sydd wedi rhoi profiad gwych i mi ym myd ymchwil ecoleg cadwraeth.