Blog

Darganfod De Cymru gyda Grace Hunt

Grace Hunt

Helo, Grace ydw i. Rydw i wedi graddio mewn Bioleg Cadwraeth ac mae gen i angerdd dros gofnodi byd natur gyda fy nghamera. Ar ôl symud i Gymru yn ddiweddar, roeddwn yn gyffrous i dderbyn y bwrsari a chael cyfle i archwilio fy amgylchfyd newydd gyda fy nghamera yn fy llaw.

Pen-bre yw fy system leol o dwyni tywod a buan iawn y daeth yn un o fy hoff lefydd. Yn gartref i 20% o holl rywogaethau planhigion Cymru, mae’n ardal hynod amrywiol, ond yn anffodus fel llawer o systemau twyni tywod mae dan fygythiad. Ym Mhen-bre, mae Dynamic Dunescapes wedi bod yn gweithio i gael gwared ar rywogaethau ymledol o blanhigion, fel Rhafnwydd y Môr, i adfer prosesau naturiol y twyni tywod a chreu gwell cynefin ar gyfer arbenigwyr twyni tywod. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi gweithio i greu ffilm fer i gofnodi cael gwared ar Rafnwydd y Môr, y bywyd gwyllt sy’n galw Pen-bre yn gartref, yn ogystal â’r bobl anhygoel y tu ôl i’r gwaith cadwraeth yma, gyda’r nod o gysylltu’r gymuned leol â’r hyn sy'n cael ei wneud i ddiogelu’r lle gwyllt rhyfeddol yma.

A close up photo of a purple orchid flower in the grass. The stem is green and the purple flowers grow from the stalk in a ladder
A green winged orchid

Yn ystod fy mhrosiect, fe wnes i ymweld â Phen-bre drwy gydol y flwyddyn, oedd yn golygu bod cyfle i brofi'r twyni ym mhob tymor. Ym mis Mawrth, dechreuodd y twyni ddod yn fwrlwm o fywyd gyda gwenyn turio yn dod allan o lannau tywodlyd, Tegeirianau’r Waun prin yn blodeuo ar draws y twyni hŷn ac ymlusgiaid yn gwneud y gorau o heulwen y bore. Wrth i’r Gwanwyn droi’n Haf, roedd glöynnod byw a gwenyn i’w gweld ym mhob rhan o’r twyni tywod, yn peillio amrywiaeth enfawr o flodau nodedig y twyni, tra oedd clochdar y cerrig a chorhedydd y waun i’w gweld yn brysur yn casglu trychfilod ar gyfer eu cywion llwglyd. Roedd sŵn y môr a’r ehedydd yn gyson drwy’r flwyddyn a bob amser yn darparu trac sain heddychlon wrth ffilmio yn y twyni. Gyda'r twyni tywod yn newid eu siâp yn gyson, ac amrywiaeth y bywyd gwyllt sy'n byw oddi mewn iddyn nhw’n newid yn gyson hefyd, roedd bob amser rhywbeth newydd i'w ddarganfod ac mae hyn yn rhywbeth rydw i wrth fy modd ag ef am y dirwedd yma. Mae rhai o’r rhywogaethau sydd i’w gweld yn y twyni yn hynod brin, a oedd yn eu gwneud yn heriol i’w darganfod ond hyd yn oed yn fwy gwerth chweil i’w gwylio a’u ffilmio er mwyn i mi allu rhannu’r anifeiliaid yma ag eraill.

A small slow worm is held in the hand. The slow worm is a shiny, golden brown
A slow worm found during a visit to the dunes.

Mae gen i werthfawrogiad llawer dyfnach o gymhlethdod y cynefin yma a’r bywyd gwyllt unigryw sydd wedi addasu i fyw ynddo. Mae wedi bod yn werth chweil dysgu pa mor bwysig yw twyni tywod a gobeithio y bydd fy ffilm fer i’n helpu i ysbrydoli eraill i archwilio’r mannau gwyllt yma a helpu i warchod y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yma.

Ffilm fer gan Grace

Grace Hunt headshot

About the Author

Grace Hunt

I am a Conservation Biology graduate and enthusiastic science communicator, with a passion for protecting nature for people and wildlife. I have set up a small business, produced a range of video content for conservation organisations and worked in wildlife education; all with the aim of encouraging people to engage with and act for nature. I love using film and photography to connect people to the incredible species and wild spaces we have on our doorstep in the UK.

You can see more from Grace on her social media accounts:
Instagram: @gracehuntphotography
YouTube: Grace Hunt