Ap Gwyddoniaeth y Dinesydd Twyni ar Symud yn hwyluso monitro cynefinoedd twyni tywod
Mae monitro amgylcheddol yn rhan hanfodol o unrhyw brosiect cadwraeth. Rydyn ni eisiau gwybod pa mor iach a thoreithiog yw’r rhywogaethau rydyn ni’n ceisio’u cefnogi, ac mae angen i ni wybod a yw’r gwaith a wnawn yn helpu. Felly rydyn ni wedi creu ap rhad ac am ddim a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer eich ffôn symudol i’n helpu i gasglu data dibynadwy a hirdymor yn safleoedd y prosiect.
Mae’r ap ar gyfer rheolwyr safleoedd Twyni ar Symud, staff gwarchodfeydd a gwirfoddolwyr hyfforddedig er mwyn iddynt gynnal gweithgareddau monitro a chofnodi data tra byddant ar safleoedd Twyni ar Symud. Os ydych chi’n wirfoddolwr neu’n wyddonydd-ddinesydd gyda Twyni ar Symud, siaradwch gyda’ch rheolwr safle am gymryd rhan a defnyddio’r ap. Os nad ydych chi’n wirfoddolwr eto, ond os hoffech chi ein helpu i reoli’n twyni tywod, gallwch gofrestru’ch diddordeb drwy lenwi ffurflen fer ar ein tudalen gwirfoddoli, a bydd aelod o’ch tîm lleol yn cysylltu â chi.



Sut mae’n gweithio?
- Cofrestrwch fel gwirfoddolwr gyda Twyni ar Symud
- Siaradwch â rheolwr eich safle lleol am ddefnyddio’r ap ac i ddysgu pa weithgareddau gwyddoniaeth y dinesydd sy’n flaenoriaeth yn eich safle twyni lleol chi.
- Edrychwch ar yr adnoddau hyfforddiant Gwyddoniaeth y Dinesydd rydyn ni wedi’u darparu er mwyn ymgyfarwyddo â diben a fformat y gwahanol weithgareddau monitro sydd ar gael.
- Llwythwch yr ap i lawr ar eich ffôn clyfar gan ddefnyddio un o’r dolenni isod.
- Crëwch eich proffil a mewngofnodi i’r ap.
- Dewiswch safle eich arolwg.
- Cliciwch yr eiconau 'Rhywogaethau' neu 'Cynefinoedd' ar waelod y sgrin i ddysgu sut i adnabod ac enwi rhywogaethau ar y twyni, neu i ddysgu mwy am y mathau o gynefinoedd mewn system twyni tywod.
- Cliciwch ar y bar glas 'Gweithgareddau y gallwch eu gwneud' ar y dudalen gartref i ddysgu sut i gwblhau gwahanol fathau o arolwg gwyddoniaeth y dinesydd.
- Cliciwch ar y botwm glas '+' i ddechrau eich arolwg. Dewiswch y math o arolwg ac ychwanegu’ch data gan ddilyn y cyfarwyddiadau.
- Cliciwch ar 'Gorffen' i gyflwyno’ch data.


Diolch! Caiff eich data ei ychwanegu i’n setiau data sy’n tyfu, a bydd yn ein helpu i gael gwell darlun o fioamrywiaeth bywyd gwyllt, iechyd cynefinoedd ac effeithiau gwaith cadwraeth ar ein twyni tywod.
Barod i fynd? Llwythwch yr ap i lawr!
Datblygwyd ap Twyni ar Symud gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU. Mae’r ap yn cynnig chwe gweithgaredd i wirfoddolwyr fonitro’r newidiadau mewn systemau twyni – yn cynnwys eu siâp a’u maint, llystyfiant a lefel trwythiad – dros fisoedd a blynyddoedd.