Mae Twyni ar Symud yn brosiect newydd cyffrous ac uchelgeisiol i adfer rhai o’r twyni tywod pwysicaf yng Nghymru a Lloegr er lles pobl, cymunedau a bywyd gwyllt.

Mae llawer ohonom yn gyfarwydd â thwyni tywod ac yn eu coleddu fel tirweddau arfordirol hardd, ond maent hefyd yn bwysig am eu bod yn ferw o fioamrywiaeth. Mae’r twyni hyn yn noddfa i rywogaethau unigryw a phrin sydd wedi addasu’n berffaith i fyw mewn tywod. Mewn twyn iach, gallech ddod o hyd i degeirianau, llyffantod, adar a madfallod yn ffynnu!

Ond mae’r creaduriaid arbennig hyn mewn perygl. Dros amser, mae llawer o dwyni tywod wedi cael eu gorchuddio gan wair a phrysgoed sydd wedi sefydlogi’r tywod yn ormodol, ac mae rhywogaethau ymledol wedi llethu rhai cynhenid. Gwyddom bellach fod ar dwyni angen ardaloedd o dywod sy’n symud yn rhydd, ynghyd â llaciau twyni cysgodol iach, ac ardaloedd ble mae’r llystyfiant yn isel er mwyn cynnal y bywyd gwyllt amrywiol. Rydym yn defnyddio technegau cadwraeth arloesol i ailfywiogi’r twyni ac i wneud eu tywod symudol yn gartref perffaith unwaith eto i’n bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.

A green and brown sand lizard sits on a sandy grassy patch of sand dune

Twyni ar Symud i chi

P’un a ydych yn archwilio gyda’ch teulu, yn barod i ymuno â’n gwirfoddolwyr neu’n chwilio am gyfleoedd blaengar i wneud ymchwil fel myfyriwr, mae rhywbeth yn Tywod ar Symud i bawb.