Hyfforddiant ar-lein

Mae'r saith uned ganlynol yn llwybr hunan-dywys rhyngweithiol at Lawlyfr Rheolwyr Twyni Tywod.

Mae'r unedau e-ddysgu hyn wedi'u targedu at Reolwyr Safleoedd ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn cadwraeth. Mae'r cwrs yn cynnig arfau ymarferol y gallwch eu cymhwyso; ymchwil ac arbenigedd ar sut i reoli a chynnal system twyni tywod iach a dynamig.

Yr amser dysgu ar gyfer y cwrs hwn yw un awr. Anogir dysgwyr i ddefnyddio'r unedau e-ddysgu hyn fel prif ffynhonnell wybodaeth cyn edrych ar Lawlyfr Rheolwyr Twyni Tywod.

Lawrlwythwch Lawlyfr Twyni ar Symud ar gyfer Rheolwyr Twyni Tywod

Rydyn ni wedi datblygu llawlyfr cynhwysfawr yn trafod yr amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gyfer rheoli twyni sydd ar gael i fynd i’r afael â’r problemau y mae systemau twyni arfordirol yn eu hwynebu, yn cynnwys gorsefydlogi a rhywogaethau ymledol. Ymysg yr ymyriadau rheoli a drafodir mae rhicio, pori, stripio tyweirch a chlirio prysgoed. Mae’r llawlyfr hwn wedi’i ddylunio i fod yn adnodd defnyddiol a manwl ar gyfer rheolwyr safleoedd twyni tywod, a’i nod yw sicrhau bod ein technegau rheoli’n cael eu cadw mor gyfredol â phosib at anghenion cadwraeth y twyni mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Sut i gyfeirio at y ddogfen hon:

Jones, L.1, Rooney, P.2, Rhymes. J.2 a phartneriaid Twyni ar Symud (2021). Llawlyfr Rheolwyr Twyni Tywod. Fersiwn 1, Mehefin 2021. Cynhyrchwyd ar gyfer prosiect Twyni ar Symud (DuneLIFE): LIFE17 NAT/UK/000570; HG-16-086436

Ymwybyddiaeth Dementia: Gwneud eich safle’n hygyrch

Fe fuon ni’n gweithio gyda’n cydweithwyr yn Dementia Adventure i greu dau becyn cymorth y gallwch eu lawrlwytho fel dogfennau PDF, i'ch helpu i sicrhau bod eich safle’n groesawgar ac yn hygyrch i bobl â Dementia a'u gofalwyr. Mae un pecyn cymorth yn mynd i'r afael â rhai o'r ystyriaethau y dylid rhoi sylw iddynt wrth sicrhau bod eich safle’n hygyrch, ac mae’r llall yn rhoi arweiniad i chi ar sut i gysylltu â grwpiau lleol.

Mae dod i gysylltiad â natur a gallu cael profiadau synhwyraidd diddorol yn bwysig i bob cymuned, ac yn benodol rydym yn falch o weithio gyda Dementia Adventure, sy'n gweithio'n galed i sicrhau y gall y gymuned dementia a gofalu fanteisio ar y buddion corfforol a lles mae ein tirweddau twyni prydferth yn eu cynnig.

Pecyn Cymorth Ymwybyddiaeth Dementia ar gyfer Rheolwyr Safleoedd Twyni Tywod: Ystyriaethau’r safle ac archwilio

Pecyn Cymorth Ymwybyddiaeth Dementia ar gyfer Rheolwyr Safleoedd Twyni Tywod: Cysylltu â grwpiau lleol

As our sites are spread across England and Wales, we have created a Sand Dune Site Managers forum for each local team to share learning and experiences.

This is a closed forum group, but if you are a Sand Dune Manager at another site, or indeed even in another country, you can request to be included.

Please fill out the form below and our team will get in touch with you.