Sir Gaerfyrddin
Mae systemau twyni tywod anferthol Sir Gaerfyrddin yn ymestyn o amgylch Bae Caerfyrddin, o’r Gŵyr i Ddinbych-y-pysgod. Mae Ardal Cadwraeth Arbennig Twyni Bae Caerfyrddin yn gartref i dair system sylweddol o dwyni; Twyni Tywod Pen-bre, Twyni Whiteford a Thwyni Lacharn a Phentywyn.
Mae’r ardal hon yn gartref arbennig o bwysig i blanhigion; mae dros 250 o rywogaethau o blanhigion blodeuog, bron i 20% o’r holl rywogaethau o blanhigion sydd i’w cael yng Nghymru, i’w cael yma. Bydd y prosiect hwn yn ailfywiogi 47 hectar o dwyni tywod yng Ngwarchodfa Natur Leol Twyni Tywod Pen-bre. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n arwain ar ein gwaith ym Mhen-bre, gan weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Plantlife.
Pen-bre
Mae Pen-bre yn bentref prydferth sy’n edrych dros Fae Caerfyrddin ac sydd ar ddarn o arfordir sy’n gartref i dwyni trawiadol. Yma cewch enghraifft wych o system twyni bardraeth sy’n llai na 500 oed. Yn y 100 mlynedd diwethaf, mae’r twyni hyn a’r planhigion bregus sy’n byw arnynt wedi dod o dan fygythiad gan lefelau cynyddol o lystyfiant sydd wedi sefydlogi’r tywod.
Mae gweiriau trwchus a thal, coed conwydd, a’r rhywogaeth ymledol rhafnwydden y môr wedi ymledu dros rannau helaeth o’r twyni. Mae hyn yn newid y cynefin ac yn ei gwneud yn anoddach i rywogaethau o blanhigion a phryfed sydd wedi addasu i’r twyni oroesi, ac mae glaswelltir byr sy’n dda i flodau gwyllt yn mynd yn dal ac yn llai amrywiol. Wrth i blanhigion trwchus ddechrau tyfu yn llaciau’r twyni, nid yw’r llefydd llaith a’r pyllau tymhorol ar gael mwyach i’r planhigion a’r amffibiaid sy’n byw yno fel arfer. Mae rhywogaethau prin, fel tegeirian y fign galchog a’r llysiau’r afu pitw bach, y petal-lys, eisoes wedi’u colli o’r dirwedd. Felly, un o dasgau pwysicaf y prosiect yw codi rhafnwydden y môr er mwyn caniatáu i’r twyni ddychwelyd i’w cyflwr naturiol.
Gall cwningod fod yn rhan bwysig o system o dwyni tywod iach; drwy bori maent yn cadw’r llystyfiant yn fyr, sy’n fanteisiol i flodau gwyllt a nifer o rywogaethau o bryfed, a thrwy dyllu maent yn cadw’r tywod o amgylch agoriad eu tyllau neu eu cwningaroedd yn noeth, sy’n caniatáu i’r gwynt ei symud drwy’r twyni. Mae poblogaethau cwningod ym Mhen-bre wedi gostwng yn eu niferoedd yn yr hanner can mlynedd diwethaf, felly byddwn yn creu amgylchiadau gwell i’r poblogaethau bychain o gwningod sy’n weddill. Drwy dynnu rhafnwydden y môr ac ardaloedd o brysgoed, sicrheir glaswelltir agored a thywod iddynt fyw a thyllu ynddynt, gan ganiatáu i’w niferoedd gynyddu eto.
Mae hanes diddorol i Ben-bre hefyd. Mae llawer o archaeoleg o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd wedi’i chladdu yn y twyni, gan gynnwys o ffatri ffrwydron rhyfel. Drwy dynnu prysgoed a rhywogaethau ymledol, gallwn ni a grwpiau archaeoleg lleol archwilio treftadaeth gyfoethog y safle a darganfod ei drysorau hanesyddol. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i grwpiau lleol eraill fynd at y twyni, gan gynnwys ysgolion, ac yn caniatáu rhagor o gyfleoedd am dripiau addysgiadol.
Photos from Carmarthenshire
Bywyd gwyllt y gallech ei weld yn Sir Gaerfyrddin
Ymysg y tegeirianau y gallech eu gweld mae tegeirian y wenynen (Ophrys apifera) a chaldrist y gors (Epipactis palustris) – tegeirian prydferth a chanddo flodau pinc a gwyn y gellir ei weld yn llaciau llaith y twyni.
Ar ddiwrnod braf a thawel, gallech weld cwningod (Oryctolagus cuniculus) yn sboncian ar draws glaswelltir y twyni, neu’n pori ble mae’r llystyfiant yn isel.
Eich Wyneb Cyfarwydd yng Nghymru
Hannah Lee
Swyddog Cysylltu â Phobl, Plantlife
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Rydym yn cynllunio llond gwlad o ddigwyddiadau, teithiau tywys, sgyrsiau am natur, prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd, cyfleoedd i wirfoddoli a chyfleoedd am hyfforddiant neu brofiad gwaith i’r gymuned gyfan gymryd rhan ynddynt.
Byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ysgolion lleol archwilio’r twyni a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd a rhywogaethau’r twyni tywod. Byddwn yn diweddaru’n tudalen ddigwyddiadau yn rheolaidd, felly cofiwch ddod yn ôl yn aml i weld beth rydym wedi ei ychwanegu at ein rhaglen gyffrous!
