Môn a Gwynedd

Yn gorwedd oddi ar arfordir gogledd-orllewin Cymru, mae Môn yn ynys fawr sy’n adnabyddus am ei harfordir hardd, ac sy’n gartref i draethau hirion, brigiadau caregog a nifer o systemau mawr o dwyni tywod – a rhai o’r rhain yn safleoedd o bwys rhyngwladol. Ar arfordir y tir mawr, mae’r twyni’n ymestyn i lawr arfordir bae Caernarfon, ac mae llawer mwy i’w cael yn bellach ar hyd y tir mawr i lawr i Fae Ceredigion.

Mae ein gwaith ym Môn a Gwynedd yn cwmpasu 1000 hectar o dwyni a chaiff ei arwain gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau Natur, Plantlife a thirfeddianwyr preifat. Byddwn yn gweithio yng Nghymyran, Tywyn Trewan, Tywyn Llyn, a Thywyn Fferam ym Môn, ac ym Morfa Bychan yng Ngwynedd.

Mae delweddau o’r awyr o’r 1940au o dwyni tywod yng Nghymru yn dangos bod y rhan fwyaf o’r twyni’n symud llawer a bod llawer o ardaloedd mawr o dywod noeth arnynt. Yn sgil sefydlogi cynefinoedd twyni tywod maent yn llai iach nag yr oeddent, ac oherwydd hynny rydym wedi gweld gostyngiad mawr yn y rhywogaethau sy’n dibynnu ar dywod noeth; mae nifer o rywogaethau arloesol rhyfeddol sydd o’u natur wrth eu boddau mewn twyni tywod symudol yn eu cyfnodau cynnar. Er mwyn creu rhagor o dir noeth, caiff ardaloedd o brysgoed trwchus a rhywogaethau o blanhigion ymledol sydd wedi sefydlogi’r twyni, megis rhosyn Japan, eu codi. Drwy ddinoethi mwy o dywod, byddwn yn creu mwy o le i rywogaethau sy’n dibynnu ar dywod symudol, a byddwn yn caniatáu i fwy o dywod gael ei chwythu drwy’r twyni, gan alluogi’r twyni i symud ychydig yn rhwyddach unwaith eto

Arferai’r glöyn byw hardd, britheg y gors, fod yn olygfa gyffredin ar y twyni yn Nhywyn Llyn, Tywyn Fferam a Morfa Bychan, ond nid ydynt wedi’u gweld yn y degawdau diwethaf. Drwy wella llaciau’r twyni – y pantiau rhwng cribau’r twyni – byddwn yn gwneud y twyni hyn yn fwy deniadol i boblogaethau britheg y gors symud yn ôl iddynt.

Ar y cyfan prin iawn yw’r maeth mewn twyni, ac mae llawer o’r rhywogaethau sy’n byw mewn twyni tywod wedi addasu i fyw mewn amgylcheddau sy’n brin o faetholion. Wrth i fwy a mwy o blanhigion dyfu, maent yn sefydlogi mwy o nitrogen ac yn tynnu mwy o faetholion i’r twyni, ac mae’r haen uchaf o bridd yn cronni digon o faetholion i ganiatáu i fwy fyth o blanhigion dyfu. Wrth i’r pridd newid, nid yw’r rhywogaethau sydd wedi addasu i’r twyni yn tyfu cystal a gall y planhigion newydd fynd â llawer o’u lle. Drwy godi rhywfaint o bridd mwy maethlon mewn rhai mannau, byddwn yn adfer yr amgylchedd o faetholion prin sydd ei angen ar nifer o rywogaethau’r twyni.

Bywyd gwyllt y gallech ei weld ym Môn a Gwynedd

Ar ddiwrnod braf a thawel, gallech weld cwningod, ysgyfarnogod, llwynogod a draenogod yng nglaswelltir isel y twyni.

Gallech weld y gardwenynen lwydfrown a’r saerwenynen, a nifer o rywogaethau o loÿnnod byw, gan gynnwys y glesyn cyffredin, y gweirlöyn llwyd, gweirlöyn bach y waun, a’r fritheg werdd yn gwerthfawrogi blodau gwyllt y twyni.

Mae ymlusgiaid fel y neidr ddefaid, y wiber a’r fadfall yn hoffi torheulo ar dywod noeth ac yn byw mewn glaswelltir byr. Gwelir y llyffant dafadennog yn aml, ac mae pyllau llaciau’r twyni yn byrlymu gan lyffantod bychain yn yr haf.

Gellir clywed yr ehedydd hyfryd yn canu ar ddechrau’r haf, tra bo tinwen y garn a chlochdar y cerrig yn galw o’u clwydi. Gellir gweld y frân goesgoch, sy’n bwydo ar laswelltir byr y twyni, a’r cudyll coch trawiadol o amgylch nifer o dwyni tywod Gogledd Cymru, a gellir gweld y llinos bitw fach ym Morfa Bychan. Mae’n bosibl y gellid gweld y dylluan glustiog yn y gaeaf.

Yn y moresg, gellir gweld y trilliw bychan ac mae pantiau isel y twyni yn fôr o liw yn yr haf pan fo blodau fel y blucen felen a thegeirianau yn blodeuo. Yng Nghymyran, ddiwedd yr haf mae eangderau o rug yn blodeuo yn wledd i’r llygaid, a hefyd i bryfed.
Mae Morfa Bychan yn gartref i’r frwynen lem, sy’n brin ac yn bigfain ac yn byw yn llaciau’r twyni, ynghyd â nifer o blanhigion a fydd yn elwa ar dywod mwy agored, gan gynnwys peiswellt y twyni, pig y crëyr gludiog, y tagaradr bach a thafod y neidr.

Eich Wyneb Cyfarwydd yng Nghymru

Hannah Lee

Swyddog Cysylltu â Phobl, Plantlife

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Rydym yn cynllunio llond gwlad o ddigwyddiadau, teithiau tywys, sgyrsiau am natur, prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd, cyfleoedd i wirfoddoli a chyfleoedd am hyfforddiant neu brofiad gwaith i’r gymuned gyfan gymryd rhan ynddynt.

Byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ysgolion lleol archwilio’r twyni a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd a rhywogaethau’r twyni tywod. Byddwn yn diweddaru’n tudalen ddigwyddiadau yn rheolaidd, felly cofiwch ddod yn ôl yn aml i weld beth rydym wedi ei ychwanegu at ein rhaglen gyffrous!

hero 20190626_145532