Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot
Mae twyni tywod yng Nghymru yn brin ac o dan fygythiad, ac ar hyn o bryd ychydig iawn ohonynt sydd mewn cyflwr iach ac sy’n cynnal y poblogaethau amrywiol o fywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt. Ymysg yr heriau mwyaf a wynebant mae gorsefydlogi’r tywod – gwyddom bellach fod angen i’r tywod allu symud – yn ogystal â rhywogaethau ymledol, na fyddent yn tyfu ar y twyni yn naturiol, yn meddiannu’r cynefin. Gan mai ond ychydig o dywod noeth sy’n symud bellach, ychydig o amgylcheddau sydd ar gael i rywogaethau arloesol y twyni – y planhigion a’r anifeiliaid sy’n dod i fyw yn gyntaf mewn tywod sy’n symud.
Bydd ein gwaith yn yr ardal yn digwydd yn Nhwyni Baglan, Twyni Crymlyn, Twyni Pennard, Twyni Penmaen, Twyni Oxwich a Thwyni Broughton, a chaiff 21 hectar o dwyni tywod eu hadfer neu eu hail-greu yn ystod y prosiect. Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n arwain ar waith Tywod ar Symud yng Nghymru, gan weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, awdurdodau lleol, Ymddiriedolaethau Natur, Plantlife a thirfeddianwyr preifat.
Fel rhan o’r prosiect hwn byddwn yn ceisio adfer rhai o brosesau deinamig twyni tywod yma; drwy ddinoethi tywod bydd yn symud yn fwy rhydd drwy systemau’r twyni a bydd mwy o le i rywogaethau sy’n ffynnu mewn tywod noeth, fel y fadfall, fyw ynddo.
Mae rhostir twyni yn gynefin prin yng Nghymru – ac yn un y mae angen ein cymorth arno. Bydd y prosiect hwn yn helpu i adfer y rhostir twyni yn Nhwyni Pennard a Thwyni Penmaen drwy glirio ardaloedd o brysgoed a rhedyn dwys. Drwy dynnu’r llystyfiant dwys sydd wedi gordyfu ac sy’n cysgodi’r grug a blodau gwyllt y rhostir, gall yr ardal ffynnu unwaith eto. Torrir glaswelltir mewn rhai mannau i gadw’r llystyfiant yn isel, ac anogir cwningod i bori hefyd.
Yn Oxwich, arferai cwningod fod yn rhan arwyddocaol o amgylchedd twyni tywod, yn helpu i gadw’r llystyfiant yn fyr a’r twyni i symud. Fodd bynnag, yn sgil Mycsomatosis (clefyd a gyflwynwyd i Brydain yn yr 1950au) ac yn fwy diweddar Clefyd Gwaedlifol Cwningod, chwalwyd nifer o boblogaethau cwningod y DU. Bwriad y prosiect hwn yw ailgyflwyno rhai cwningod i’r twyni a hefyd annog y poblogaethau bychain o gwningod sy’n weddill i luosogi drwy greu cwningaroedd newydd a thorri glaswelltir twyni.
Mae angen ychydig o sylw hefyd ar y pantiau llaith rhwng cribau’r twyni, a elwir yn llaciau twyni. Byddwn yn ceisio adfer hen laciau sydd wedi gordyfu yn Nhwyni Crymlyn ac yn Oxwich, gan ddefnyddio technegau fel crafu’r wyneb a thynnu prysgoed. Bydd hyn yn gostwng lefel y tir, gan ganiatáu i’r pantiau lenwi yn dymhorol ac aros yn llaith y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Wedi eu hadfer, bydd y llaciau hyn yn gartref gwell i blanhigion prin, megis y tegeirian bychan prin, tegeirian y fign galchog, yn ogystal ag amffibiaid megis y llyffant dafadennog.
Photos from Swansea, Neath and Port Talbot
Bywyd gwyllt y gallech ei weld yn Sir Gaerfyrddin
Ar ddiwrnod braf a thawel gallech weld cwningod (Oryctolagus cuniculus) yn sboncian ar draws y glaswelltir ar y twyni yn Oxwich, yn pori ble mae’r llystyfiant yn fyr.
Mae llaciau’r twyni yn gartref i nifer o rywogaethau o amffibiaid, megis y fadfall ddŵr gribog (Triturus cristatus) a’r llyffant dafadennog (Bufo bufo), sy’n byw ac yn bridio yn y pyllau bas.
Gellir gweld y fadfall (Zootoca vivipara), y neidr ddefaid (Anguis fragilis) a neidr y gwair (Natrix helvetica) yn mwynhau yn yr haul ar y tywod neu mewn glaswelltir isel.
Mae twyni tywod yn gynefinoedd pwysig i adar hefyd, a gellir gweld yr ehedydd (Alauda arvensis) yn aml yn Broughton, ble mae’n nythu ar y ddaear mewn ardaloedd o dir agored heb fawr ddim llystyfiant.
O ran planhigion y twyni, gellir gweld y blodyn porffor bychan pert, crwynllys y twyni (Gentianella uliginosa) yn ei flodau rhwng mis Mehefin a mis Medi yn Oxwich.
Eich Wyneb Cyfarwydd yng Nghymru
Hannah Lee
Swyddog Cysylltu â Phobl, Plantlife
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Rydym yn cynllunio llond gwlad o ddigwyddiadau, teithiau tywys, sgyrsiau am natur, prosiectau gwyddoniaeth y dinesydd, cyfleoedd i wirfoddoli a chyfleoedd am hyfforddiant neu brofiad gwaith i’r gymuned gyfan gymryd rhan ynddynt.
Byddwn hefyd yn cynnig cyfleoedd i ysgolion lleol archwilio’r twyni a dysgu am bwysigrwydd cynefinoedd a rhywogaethau’r twyni tywod. Byddwn yn diweddaru’n tudalen ddigwyddiadau yn rheolaidd, felly cofiwch ddod yn ôl yn aml i weld beth rydym wedi ei ychwanegu at ein rhaglen gyffrous!
